Catrin Heledd yng nghanol cyffro'r Crucible

Catrin HeleddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Catrin y tu allan i'r Crucible yn Sheffield

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n wyneb cyfarwydd ar raglenni fel Clwb Rygbi a Match of the Day, ac yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru a Radio Wales.

Eleni, mae Catrin Heledd wedi bod yn cyflwyno sylwebaeth Pencampwriaeth Snwcer y Byd ar y BBC.

O adeilad hanesyddol y Crucible, Catrin sy'n sôn am y profiad o weithio yn nhwrnament pwysicaf y byd snwcer proffesiynol.

'Hectic ond hwyl'

Sheffield. Beth sy’n dod i’r meddwl? Y gwaith dur? Ffilm y Full Monty falle. Pulp neu’r Arctic Monkeys? Beth am snwcer? Wrth gwrs.

Ers bron i hanner canrif bellach pair y Crucible yw cartref prif bencampwriaeth y gamp.

Fis Ebrill bob blwyddyn mae 'na filoedd yn tyrru i’r ddinas o bedwar ban byd i wylio’r goreuon yn mynd benben â'i gilydd.

Ronnie a Jimmy, Hendry a Higgins, Davies a Dennis - ma' nhw i gyd 'di bod yma.

Eleni eto dwi’n ddigon lwcus i gael bod yn eu plith - yn rhan o dîm darlledu’r BBC.

80 rhaglen mewn 17 diwrnod. Mae’n hectic ond yn hwyl.

Disgrifiad o’r llun,

Catrin yn cyflwyno ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd

'Rhaid bod yn cŵl o flaen O'Sullivan'

Y 'pinch me moment' cyntaf... cael bod yn rhan o’r grŵp WhatsApp.

Stephen Hendry is writing a messagegulp.

Be ma' John Parrot yn cael i ginio heddi' 'sgwn i? Faint o’r gloch ma' Shaun Murphy yn cael ei golur? Ai Ken Doherty sy’n gwmni i fi yn y stiwdio heno tybed?

Personoliaethau fy mhlentyndod bellach yn rhifau yng nghrombil y ffôn. Fyddai Mam-gu, oedd yn wyliwr brwd, wrth ei bodd.

Cyrraedd y gwesty a gweld Dennis Taylor.

Catherine! How are you?” Coflaid gan y cymeriad bytholwyrdd o Ogledd Iwerddon, sydd wrth gwrs yn ei sbectol adnabyddus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Ronnie O'Sullivan allan yn rownd go-gynderfynol y bencampwriaeth

Crwydro coridorau’r Crucible wedyn. Gweld Ronnie. “Alright Cat?” Gwenu yn swil.

Rhaid bod yn cŵl o flaen O’Sullivan, o bawb.

Ond dwi mewn cwmni cyfarwydd hefyd. Ma' 'na Gymry ymhobman yn cuddio yn y Crucible.

Ie, y chwe Chymro fu’n cystadlu wrth reswm - ond gefn llwyfan ma' 'na gyfarwyddwyr, pobl camera, criw technegol sy’n rhan o’r siarabang blynyddol.

Cartref oddi cartref a’r Gymraeg i’w chlywed yn aml.

Disgrifiad o’r llun,

John Higgins yn cael ei gyfweld gan Hazel Irvine a'r cyn-bencampwr byd Ken Doherty

Ond am ba hyd?

Theatr yw’r Crucible am hanner cant o wythnosau’r flwyddyn - yn llwyfannu sioeau, gigs ac ati.

Ond am y pythefnos arall mae’n troi’n arena chwaraeon.

A dyma’r broblem.

Lle i lai na 1,000 o gefnogwyr sydd yna a gyda thair blynedd o gytundeb ar ôl gyda’r theatr, mae’r ddadl ynglŷn â symud o Sheffield yn parhau.

Diwedd y gân yw’r geiniog ac mae yna wledydd sy’n barod i dalu ac i fuddsoddi.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cerfluniau o beli snwcer tu allan i'r Crucible yn Sheffield

Yn ôl un cystadleuydd o Iran, Hossein Vafaei, mae’r lle yn "drewi" ac mae’r stafell ymarfer "fel garej".

Dyw Vafaei yn amlwg ddim wedi bod i dai bach Maes B ar ddiwedd wythnos 'Steddfod.

Na, falle nad oes 'na garped coch ar lawr ond mae’r stafell ymarfer, sydd hefyd yn stiwdio deledu gyda llaw, yn ddigon cysurus i fi!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Catrin yn paratoi tra bod y chwaraewr o Awstralia, Neil Robertson, yn cael ei golur

Felly a fyddai codi pac i Saudi, er enghraifft, yn tynnu oddi ar y traddodiad? Does 'na nunlle sy’n debyg i’r Crucible.

Yr eisteddle serth. Pawb ar ben ei gilydd. Mae 'na densiwn, mae 'na dyndra, mae 'na dawelwch pan mae 'na ddau wrth y bwrdd.

Mae’r ffans ffyddlon hefyd yn ffanatig.

Yn gadael y Crucible un noson am hanner nos gyda phencampwr 2005 yn gwmni roedd 'na floedd o’r cysgodion gan ddau a oedd wedi teithio yn unswydd o Wlad Groeg.

“Selfie, selfie Shaun!”

Unrhywbeth i gwrdd â’u harwr!

Am bythefnos yn y gwanwyn, mae’r ardal yn cofleidio snwcer. Fe fyddai gadael felly yn ergyd i ddinas sydd â’r gamp wrth galon ei bodolaeth a’i hunaniaeth.

Pynciau Cysylltiedig